Thumbnail
WOM21 Llygredd Aer - Amonia
Resource ID
b6e2ecee-e4da-4ae4-becd-feafbde1b688
Teitl
WOM21 Llygredd Aer - Amonia
Dyddiad
Awst 4, 2021, canol nos, Creation Date
Crynodeb
Mae lliniaru llygredd aer yn cael ei sgorio yn y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) gan ddefnyddio dwy set ddata wahanol sy'n nodi'r gallu i liniaru effeithiau PM2.5 (ar iechyd pobl) ac Amonia (yn bennaf ar gyfer effeithiau ar ecosystemau gan fod manteision i iechyd pobl yn cael eu cynnwys o dan PM2.5). Oherwydd y ddau fath gwahanol o effaith (iechyd pobl ac ecosystemau), roedd angen dwy haen ar wahân i ddangos y lleoliadau gorau ar gyfer creu coetir er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn. Mae’r sgoriau o’r naill haen a’r llall yn cael eu haneru ac yna eu cyfuno er mwyn osgo cyfrif llygredd aer ddwywaith o'i gymharu â haenau sgorio eraill. Mae’r haen hon yn dangos y cyfle i goed dynnu llygredd ar ffurf Amonia o’r aer. Dim ond o ryw ychydig y mae allyriadau amonia wedi gostwng yn yr 20 mlynedd diwethaf, a gwelwyd cynnydd eto yn y cyfnod 2015-17. Mae amonia’r destun pryder amgylcheddol mawr o hyd oherwydd ei effeithiau andwyol ar goedwigoedd, cyfansoddiad y rhywogaethau a geir mewn ecosystemau lled-naturiol a phridd. Gall plannu coed gael effaith lesol fel strwythur yn y dirwedd i leihau amonia yn yr aer drwy wneud canlynol. 1. Lleihau allyriadau o lagwnau slyri drwy leihau cyflymder y gwynt dros eu harwyneb. 2. Ail-ddal a gwanhau allyriadau o ffynonellau ar ochr y goedwig sy’n wynebu’r gwynt drwy gynyddu tyrfedd a chyflymderau dyddodi. 3. Cynyddu’r gwasgaru uwchlaw’r canopi drwy ragor o gymysgu, gan leihau’r dyddodi mewn cynefinoedd cyfagos. Gall plannu coed mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o amonia gasglu’r amonia gan leihau’r pwysau y mae dyddodiad amonia yn ei roi ar gynefinoedd yng nghyfeiriad y gwynt, helpu i deneuo a gwasgaru’r amonia a lleihau PM2.5 eilaidd hefyd. Mae’r data am amonia a ddefnyddir yma yn seiliedig ar ddata 2018 y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol am amonia. Mae’r sgôr yn seiliedig ar dorbwyntiau NAEI a amlinellir ar eu gwefan, sy’n dangos allyriadau amonia yn nhermau tunelli fesul cilometr sgwâr.
Rhifyn
--
Responsible
superuser
Pwynt cyswllt
User
superuser@email.com
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 146611.8011
  • x1: 355308.0008
  • y0: 164586.2969
  • y1: 395984.399900001
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
None
Rhanbarthau
Global